Caerdydd Cynaliadwy

 

Eich canllaw boced i siopa, bwyta a byw’n gynaliadwy yn ein prifddinas. 

Dyddiau hyn mae mwy o bobl nag erioed yn dod yn fwy eco-ymwybodol, wrth ystyried sut y bydd ein harferion siopa a’n ffyrdd o fyw yn effeithio ar ein planed, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol. Ond, gall hyn fod braidd yn anodd weithiau, yn enwedig os ydych chi newydd ddechrau ar eich taith i fyw’n fwy cynaliadwy. Yn hawdd iawn, gyda’r holl wybodaeth i geisio deall a’r ffactorau gwahanol i’w ystyried, gallwch chi feindiwch eich hunain, fel oeddwn i flynyddoedd yn nôl, wedi’ch llethu’n llwyr ac yn meddwl ‘ble i ddechrau?’.

Ond peidiwch â phoeni, gan fod fi yma i helpu! Rydw i wedi guradu’r canllaw hwn er mwyn i chi wybod y llefydd gorau i ddechrau siopa, bwyta a byw’n fwy cynaliadwy yn ein prifddinas.

 

Siop Sero, Rhiwbina 

Wedi’i sefydlu fel siop nid-er-elw gan Cath Richards, agorodd Siop Sero ei drysau yn Rhiwbeina dros ddwy flynedd yn ôl. Ei nod yw gwneud siopa di-blastig a chynaliadwy yn fwy hygyrch i bobl Caerdydd, ac i helpu i hwyluso prosiectau amgylcheddol o fewn y gymuned lleol. 

O fewn y siop oddi ar Heol Beulha, y mae’r silffoedd llawn dop o nwyddau cynaliadwy, gyda phopeth o basta sych i gynhyrchion glanhau’r cartref y gellir eu hail-lenwi tro ar ôl tro – does wir ddim rheswm i siopa unrhyw le arall. I’r rhai sydd â dant melys, mae yno ddigonedd o siocled a melysion i chi drio, gan gynnwys rhai fegan. Maent hyd yn oed yn gwerthu siampŵau a chyflyrydd cŵn sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, ac felly gall hyd oed yn eich ffrind bach blewog helpu achub yr amgylchedd. 

Mae nhw wir wedi meddwl am bopeth, fel nad oes rhaid i chi! 

Y mae’r flwyddyn hwn yn un cyffroes iawn i’r brand Siop Sero, wrth iddyn nhw ehangu dros yr haf a chymryd drosodd siop Ripple yn y Rhath. Pan agored Ripple yn wreiddiol, dros bum mlynedd yn ôl, dyma oedd y siop ddiwastraff gyntaf Caerdydd.

 

Overseas Apparel, Arcêd Frenhinol

Am flynyddoedd lawer, mae dadl wedi bodoli bo ni all dillad cynaliadwy bod yn ffasiynol. Ond, diolch i Overseas Apparel, nid yw ffasiwn erioed wedi edrych mor ecogyfeillgar!

Rhedwyd yn ddyddiol ac yn annibynnol gan y sylfaenydd Liam Jones, mae Overseas Apparel (OSA) yn cynnig dillad ecogyfeillgar a steilus, o ansawdd uchel am brisiau fforddiadwy i bobl Caerdydd, a phob un wedi’u dylunio a’u hargraffu yn eu pencadlys yng Nghaerdydd.

I sicrhau bod pawb yn gallu edrych yn ffasiynol ar eu taith i fyw’n fwy cynaliadwy, mae dillad OSA yn unrhywiol ac yn well byth, wedi’u greu naill allan o ddeunyddiau organig, neu rhai sydd wedi’i hailgylchu.

Ond beth am gyfwisgoedd stylish, cynaliadwy? Wel, mae OSA wedi meddwl am hyn yn barod! Trwy gydweithio clyfar â busnesau eraill yng Nghaerdydd, fel Lucky Foot Leather a GB Cermaics, mae OSA hefyd yn gwerthu popeth o waledi lledr Eidalaidd, triniedig gan ddefnyddio llysiau, i hetiau beanie sydd wedi’u greu allan o blastig sydd wedi’u hailgylchu.

Galwch mewn i’r siop finimalaidd yn yr arcêd, a gallai dweud gyda hyder ni fyddwch yn gadael yn waglaw!

 

Caffi’r Ardd Gudd, Parc Bute 

I fi, does ‘na ddim byd gwell na ymlacio a chloncian dros goffi gyda ffrind ym Marc Bute. Ond, oes ‘na ffordd o wneud hwn mewn modd sy’n well i’r amgylchedd? Oes, wrth gwrs!

Wedi’i leoli yn ganolbarth Parc Bute, y mae’r Caffi’r Ardd Gudd. Ers agor yn 2018, y mae’r caffi wedi’i redeg yn annibynnol gan y perchennog, gyda gwerthoedd cynaliadwy wrth galon y busnes cyfan. Daeth hwn i’r amlwg wrth i’r caffi ennill gwobr Allwedd Wyrdd yn 2019 am ei waith o leihau ei effaith weithredol ar yr amgylchedd.

Gan ddefnyddio dim byd ond cynnyrch a chynhwysion lleol ac organig, y mae’r Caffi’r Ardd Gudd yn gweithio gyda’r tymhorau i sicrhau bwydlen ffres sy’n newid yn barhaus, gyda phopeth wedi’u paratoi gan law. Ffansi salad? Mae’r caffi’n defnyddio dail salad wedi’u tyfu yn llythrennol, rownd y gornel, yng Ngardd Salad Parc Bute.

Ac fel bod hynny’n ddim yn ddigon, pob tro y mae rhywun yn prynu un o’u coffi arbenigol, y mae’r caffi yn rhoi cyfraniad ariannol i’r Ymddiriedolaethau Natur De a Gorllewin Cymru. Dwi ddim yn meddwl gallai coffi bod yn wyrddach!

Author WCS

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *