Mas gyda’r hen…mewn gyda’r henach

 

“Y dillad mwyaf cynaliadwy yw’r dillad y rydych yn berchen arno yn barod”.

Gyda dim ond dros fis ar ôl o’r haf (…neu ddylai dweud ‘haf’), mae’r amser wedi cyrraedd i ni gyd ddechrau meddwl am gynllunio ein wardrob hydrefol! Ond, nid hyn yw eich esgus i redeg mewn i Ganolfan Dewi Sant gyda’ch cerdyn credid a phrynu pob un siwmper, het a menig o bob lliw’r enfys. Na! Blwyddyn yma, dwi’n eich annog chi i droi’ch wardrob yn fwy gwyrdd – nid yn llythrennol…dwi’n sôn am gynaliadwyedd. Braidd fel Selena a Hailey, nid yw’r diwydiant ffasiwn a chynaliadwyedd ‘di cael perthynas da efo’i gilydd dros y blynyddoedd diwethaf. Heddiw, rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o’r effeithiau niweidiol y mae’r diwydiant ffasiwn, gan gynnwys siopau’r stryd fawr a’r diwydiant ffasiwn gyflym ar-lein yn cael ar yr amgylchedd ecolegol a gweithwyr y sector. Mae’n bwysig felly ein bod ni gyd yn gwneud pob ymdrech i wneud penderfyniadau mwy cynaliadwy yn ystod y cyfnod rhwng-tymhorol hwn. Ond lle i ddechrau? Gyda’n cyngor i, wrth gwrs! Os ddilynwch chi fy nghanllaw cynaliadwy, bydd eich owtffits hydrefol nid yn unig yn edrych yn hollol anhygoel, ond fe allwch chi gynheilio ar hyd strydoedd Caerdydd gan wybod eich bod chi’n helpu’r blaned, a’ch pwrs yn yr hirdymor.

 

 

Flamingos (left) and Hobo’s (right)

 

 

Felly, sut mae mynd ati i greu wardrob hydrefol mewn modd cynaliadwy?

 

Mae’r cyfnod rhwng-tymhorol yma yn amser gwych i ddechrau cynllunio eich wardrob ar gyfer y tymor newydd. Mae’n werth treulio amser i feddwl am be yn union hoffech chi i’ch wardrob edrych fel, gan feddwl am steil, deunyddiau, lliwiau, silwetau ac eitemau hanfodol – dyma eich cyfle chi i gael bach o hwyl yn arbrofi a thrio pethau newydd. Ond ceisiwch osgoi prynu o’r newydd – nid yw hwnna’n gynaliadwy neu’n fforddiadwy o lawer. Y dillad mwyaf cynaliadwy yw’r dillad y rydych yn berchen arno yn barod, felly edrychwch i weld be sydd gyda’ch chi’n barod y gallwch chi gario drosodd i’ch wardrob hydrefol. Does dim byd yn bod gyda gwisgo hen ddillad!

 

Cofiwch, pryd mae’n oer yng Nghaerdydd, mae’n oer(!), felly bydd angen digonedd o haenau arnoch chi o fis Medi ymlaen. Haenwch eich ffrogiau slip gyda siwmper neu gardigan drwchus, bar o deits a phâr o fŵts i greu gwisg hydrefol hawdd a ffasiynol. Mae crysau-T a thopiau dilawes hefyd yn berffaith ar gyfer haenu yn ystod y gaeaf i ychwanegu ychydig o gynhesrwydd o dan eich siwmperi.

 

 

Ond os ydych chi’n teimlo fel bod rhaid i chi brynu eitemau newydd wrth adeiladu eich wardrob, beth am geisio prynu pethau’n ail-law? O Fflamingos yng Nghanolfan Siopa Capitol, i Hobos yn Arcêd y Stryd Fawr, mae yna ddigonedd o ddewis o siopau vintage, ail-law ac elusennol yn y Brifddinas. Y mae’r math o siopau yma yn wych os ydych chi’n edrych am eitemau unigryw, fyddwch chi ddim yn gweld ar unrhyw un arall. Ond, dylech chi ond brynu eitemau sy’n galluogi chi i gyfun-cydwedd gyda’ch dillad presennol! Ar yr un nodyn, peidiwch daflu ddilledyn a allai cael ei atgyweirio. Siwmper gyda bach o dwll ynddo? Peidiwch fynd yn syth at brynu un newydd yn ei le. Ewch yn lle i siop sy’n gallu atgyweirio ac addasu’r dillad, mae hyn hyd yn oed yn fwy cynaliadwy, fel arfer llawer yn rhatach ac yn gallu safio chi’r amser o geisio dod o hyd o siwmper debyg. Ideal!

 

Os nad yw’r math yma o siopau at ddant chi, neu os ydych chi’n cael trafferth yn dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ac yn ffeindio eich hunain nôl yng nghanol Canolfan Dewi Saint, ceisiwch brynu eitemau newydd sydd o’r ansawdd uchaf. Gall hwn fod naill gwmni dylunydd neu gwmni sydd yn arbenigo mewn dillad mwy cynaliadwy a foesol. Er gall hyn costio’n fwy, ceisiwch feddwl am y trafod fel buddsoddiad. Efallai bydd tolc yn eich pwrs yn y tymor byr, ond fydd ansawdd uwch yr eitem yn arwain at oes hirach i’r dilledyn, sy’n golygu y gallwch chi wisgo tro ar ôl tro am flynyddoedd i ddod, sy’n llawer gwell i’ch balans banc yn yr hirdymor.

 

Fy nhip olaf. Unwaith eich bod chi’n teimlo fel eich bod chi wedi creu eich wardrob hydrefol berffaith, y peth olaf i wneud yw dysgu shwt mae gofalu am eich dillad. Galwch fi’n ddiflas, ond dwi wrth fy modd yn darllen y label gofal mewnol dilledyn – ie, dwi wirioneddol yn gwneud hwn! I sicrhau hirdolaeth eich dillad ac i osgoi eich siwmperi rhag mynd yn foblyd neu’ch crysau-T yn pylu ar ôl un golchiad, mae’n bwysig eich bod yn golchi, sychu ac yn storio’ch eitemau yn union fel y mae’r gwneuthurwr yn awgrymu.

Author WCS

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *