Dewisiadau disglair Tom Kemp i’r hyn sy’n digwydd yn ein Prifddinas.

Er bod tymor yr haf yn dod i ben (wel, i fod!) a’r nosweithiau tywyll, cynnar a thawel ar y gorwel, mae bywyd y celfyddydau Cymraeg dal i fynd yn ein Prifddinas. Os nad ydych chi’n barod i roi’r gorau i’ch nosweithiau eto, dyma fy nhri phrif ddigwyddiad ni ddylid eu colli â fydd yn dod i Gaerdydd ym misoedd Hydref a Thachwedd.

Rhinoseros, Theatr y Sherman

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn ôl gyda chynhyrchiad newydd o ddrama Eugène Ionesco, Rhinoseros a chyfarwyddwyd gan Steffan Donnelly (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru). Gydag addasiad Cymraeg newydd gan Manon Steffan Ros (Llyfr Glas Nebo), mae’r ddrama hon sy’n llawn tensiwn a hiwmor yn archwilio themâu o gasineb, eithafiaeth ac iselder. Er cafodd y ddrama ei ysgrifennu yn wreiddiol nôl yn 1959, mae’r themâu mor berthnasol nawr ag erioed. Nid yw hwn yn ddrama i golli felly.


Mi fydd y ddrama yn cael ei berfformio yn Theatr y Sherman o’r 24ain i’r 27ain o Hydref, gan gynnwys perfformiadau rhagflas ar y ddwy noson gyntaf, cyn agor yn swyddogol ar y 26ain o Hydref. Mae’r dyddiadau hon yn Theatr y Sherman yn nodi dechrau taith tair wythnos a hanner o amgylch Cymru – ond Caerdydd fydd yn gweld hi gyntaf!

 

Heb ddefnyddio dy Gymraeg am gyfnod? Poeni byddech chi ddim llwyr yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud? Peidiwch chi â phoeni, mae’r Sherman yma i’ch helpu! Lawrlwythwch Sibrwd, ap mynediad iaith y Theatr. Trwy gyfuniad o gyfrwng llais trwy glustffonau a thestun ar y sgrîn, mae’r ap yn llwyddo i gyfleu’r hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan trwy’r Saesneg, fel y gallwch chi fwynhau fel pob un arall. A gwell fyth, fydd popeth ar gael i ddefnyddio ar eich ffonau personol. Mi fydd y perfformiad ar yr 26ain hefyd yn cynnwys dehongliad BSL gan Cathryn McShane.

Branwen: Dadeni, Canolfan Mileniwm Cymru

Gan aros o fewn y byd theatr felly…tybed oes ‘na ffordd o wneud y Mabinogi hyd yn oed yn fwy… ecstra? Wel, yn ôl pob sôn oes, wrth i stori enwog a thrasig Branwen cael ei drawsnewid mewn i sioe gerdd epig newydd!


Yn dilyn llwyddiant ei chynhyrchiad diwethaf, Es a Flo, a chafodd ei drosglwyddo i West End, Llundain, mae tîm Canolfan Mileniwm Caerdydd yn ôl, a thro hwn, mewn cydweithrediad gyda Frân Wen gyda chynhyrchiad sioe gerdd hollol newydd, Branwen: Dadeni, gyda chast anhygoel a chriw creadigol heb eu hail.

 

Wedi’i ysgrifennu gan dîm o dri, Hannah Jarman (Merched Parchus, S4C), Elgan Rhys (Woof, Theatr y Sherman) a Seiriol Davies (Milky Peaks, Theatr Clwyd ac Áine Flanagan Productions), mae Branwen: Dadeni yn cynnig ailddychmygiad cyfoes o un o straeon enwocaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Gethin Evans (Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen) sydd a’r cyfrifoldeb o lwyfannu’r sioe gerdd, a fydd yn teithio ledled Cymru ym Mis Tachwedd. Y mae’r cast hefyd yn llawn Cymry, gydag enwau megis Mared Williams, Tomos Eames ac Ioan Hefin yn ei phlith.


Mi fydd Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen, Branwen: Dadeni, yn ymweld â Theatr Donald Gordan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda’i 2,500 o seddi, o’r 8fed tan yr 11eg o Dachwedd. Ond gorau po gyntaf i’r swyddfa tocynnau, mae argaeledd yn barod yn brin!

Mared, Clwb Ifor Bach

Ffansi fach mwy o Mared Williams? Obsesiwn newydd gyda hi ar ôl ei pherfformiad hi’n Branwen: Dadeni efallai? Yn lwcus i ni, mi fydd y cantores-gyfansoddwraig Gymreig ‘yma nôl yng Nghaerdydd yn llai na 48 awr ar ôl i Branwen: Dadeni gau yn Theatr Donald Gordan. Y tro hwn, fe allwch chi ddal hi yng nghlwb mwyaf eiconig Cymru, Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby ar yr 13eg o Dachwedd.

 

Yn ogystal â gyrfa actio lwyddiannus yn sioeau gerdd megis Les Misérables, mae’r aelod Welsh of the West End hefyd wedi profi llwyddiant yn ei gyrfa canu ‘fyd. Yn 2021, enillodd ei halbwm ‘Y Drefn’, gyda Recordiau I KA CHING, Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn yr un flwyddyn ac ennill gwobr Seren y Sîn yng Ngwobrau’r Selar.  Ac, fel nad oedd hwn yn ddigon, yn gynharach yn y flwyddyn enillodd hi un o’r gwobrau mwyaf mawreddog Gwobrau’r Selar, Gwobr Artist Unigol Gorau’r Flwyddyn.

 

Seren sioeau gerdd ac enillydd llond llaw o wobrau, os na rhywbeth all y fenyw ‘yma ddim neud? Mynnwch docyn neu golli allan.

Author WCS

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *